Hyfforddiant SCUBA

Mae Deifwyr Môn Divers yn cynnig hyfforddiant BSAC ar bob lefel o Ocean Diver i Advanced Diver.

Rydym hefyd yn trefnu cyfleoedd i bobl cael blas ar ddeifio am y tro cyntaf ac mae’n bosib trefnu hyfforddiant un i un.

Ocean Diver - mae eich siwrnai yn cychwyn yma!

Cysylltwch â ni i gadw lle .

Ydych yn deifio’n barod?

Gallwn helpu chi i ddatblygu eich sgiliau.

Rydym yn cynnig hyfforddiant BSAC ar gyfer safonau Sports Diver, Dive Leader a Advanced Diver.

Mae gennym arian grant i ariannu hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr a hyfforddwyr profiadol i weithredu fel mentoriaid wrth i chi ddatblygu eich sgiliau.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau BSAC i ddatblygu sgiliau.